Gwirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd gan y llywodraeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Cyfradd lawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth yw  £185.15 yr wythnos, sydd dros £9,600 y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r swm a gewch yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol dros eich bywyd gwaith, felly gallai’r swm a gewch fod yn wahanol i hyn.

Cam Nesaf:

Ewch i Gwirio Eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a phryd y gallwch ei gael.

Gwirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Darganfyddwch fwy am eich cyfraniadau pensiwn gweithle

Mae pensiwn gweithle yn ffordd i chi a’ch cyflogwr wneud cyfraniadau i’ch cynilion ymddeoliad. Wrth i chi dalu i mewn i’ch pensiwn, felly hefyd mae eich cyflogwr.

Mae pensiynau gweithle yn cael eu trefnu gan eich cyflogwr, ac os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig, sy’n golygu bod canran o’ch cyflog yn cael ei roi yn y cynllun pensiwn bob diwrnod cyflog. Efallai y byddwch hefyd yn gallu ychwanegu at eich cyfraniadau pensiwn bob tro y cewch eich talu. Siaradwch â’ch cyflogwr i weld a yw hwn ar gael i chi.

Camau Nesaf:

Darganfyddwch fwy am wneud y mwyaf o’ch pensiynau.

Mae rhai pensiynau gweithle yn gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Os ydych mewn cynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch yn cael datganiad bob blwyddyn gan y darparwr pensiwn yn dweud wrthych faint rydych wedi’i gynilo iddo, a’r hyn y gallech ei gael os byddwch yn parhau i gynilo i mewn iddo.

Darganfyddwch pa wybodaeth y mae’n rhaid i’ch cynllun pensiwn ei darparu.

Darganfyddwch fwy am bensiynau gweithle

Olrhain hen bensiynau gweithle neu bersonol

Drwy newid swyddi, gall fod yn hawdd colli golwg ar eich cronfeydd pensiwn gweithle, a hyd yn oed danamcangyfrif, neu oramcangyfrif, faint sydd ynddynt. Un o gamau syml cynllunio ar gyfer ymddeoliad yw deall beth sydd gennych yn barod, ac mae rhai cynlluniau pensiwn yn caniatáu i chi gyfuno pensiynau gweithle’r gorffennol i mewn i un gronfa bensiwn.

Camau nesaf:

Defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau i ddechrau olrhain pensiynau sydd ar goll.

Ewch i HelpwrArian am fwy o wybodaeth ar sut i drosglwyddo hen gynilon pensiwn i’ch cynllun presennol.

Mae hefyd yn syniad da i sicrhau bod gan eich darparwr pensiwn eich manylion personol cyfredol.

Olrhain pensiynau sydd ar goll

Pensiynau Personol

Pensiynau personol yw pensiynau rydych yn eu trefnu eich hun. Ewch i GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am bensiynau personol.

Dysgwch fwy am bensiynau personol