y cynharaf y byddwch yn dechrau gwneud neu adolygu eich cynlluniau ymddeol, y mwyaf o reolaeth fydd gennych wrth ddewis yr ymddeoliad rydych ei eisiau, ac nid oes rhaid i chi wneud newidiadau mawr i gyd ar yr un pryd.
1. Bydd gennyf Bensiwn y Wladwriaeth, nid oes angen i mi gynilo
Cyfradd lawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth yw £185.15 yr wythnos, sydd dros £9,600 y flwyddyn. Mae hyn yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein i ddarganfod beth allech chi ei gael a phryd y gallwch ei gael.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn darparu’r sylfaen ar gyfer eich incwm ymddeoliad. Ond mae cynilo i mewn i bensiwn gweithle, pensiwn personol, neu mewn ffyrdd eraill, yn golygu y byddwch wedi paratoi’n well i gael yr ymddeoliad rydych ei eisiau.
2. Byddaf yn cael fy ngorfodi i ymddeol pan fyddaf yn cyrraedd fy oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Nid oes rhaid i ymddeoliad fod yn llinell derfyn.
Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i weithio oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran penodol. I lawer o bobl, gall gweithio mewn ffordd wahanol fod yn bont dda i ymddeoliad. Mae aros yn y gwaith yn golygu y gallwch barhau i ennill a pharhau i gynilo hefyd. Gallai arafu, gweithio’n hyblyg neu hyd yn oed wneud swydd wahanol fod y peth iawn i chi.
Os ydych yn eich 40au, 50au neu 60au, gall gymryd MOT canol oes eich helpu i gael yr ymddeoliad rydych ei eisiau, gydag arweiniad ynghylch eich arian, eich gwaith a’ch iechyd.
3. Efallai na fyddaf yn byw yn hir iawn ar ôl ymddeol, pam trafferthu cynilo?
Mae pobl yn tueddu i danamcangyfrif pa mor hir y maent yn debygol o fyw, ac mae disgwyliad oes wedi cynyddu yn y degawdau diwethaf, sy’n golygu bod pobl yn byw’n hirach.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r rhan fwyaf o oedolion yn disgwyl ymddeol rhwng 65 a 69 oed, sy’n golygu os ydych yn debygol o fyw i tua 85, byddai angen darpariaeth ymddeoliad arnoch am tua 20 mlynedd.
Mae byw’n hirach yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi gynilo mwy i gael yr ymddeoliad rydych ei eisiau. Dechrau da yw edrych ar ba gynlluniau pensiwn sydd gennych eisoes a sut y gallwch eu gwella.
4. Fy mhensiwn fydd ond yr hyn rwy’n ei dalu i mewn
Mewn gwirionedd mae dwy ffordd i chi gael mwy na rydych wedi ei dalu i mewn gyda phensiynau. Yn gyntaf, gyda phensiynau gweithle, pan fyddwch yn talu i mewn, mae eich cyflogwr yn gwneud hynny hefyd – sydd i gyd yn mynd i mewn i’ch cronfa bensiwn.
Ond wrth gwrs, efallai bydd angen i chi werthu neu symud i gartref llai o faint i rhyddhau’r arian hwn, a gall gwerth eich tai cynyddu neu leihau, sy’n golygu nid oes modd bod yn sicr o’r gwerth yn y dyfodol. Sicrhewch eich bod yn deall y rheolau am dalu treth ar yr incwm hwn hefyd.
6. Ni fydd fy mhensiwn yn cael ei ddiogelu
Mae pensiynau’n cael eu diogelu mewn gwahanol ffyrdd i wneud yn siŵr nad ydych yn colli allan. Darganfyddwch sut yn y fideo hon.
7. Nid oes angen i mi adolygu fy nghynlluniau pensiwn
Yn ôl arolwg yr FCA ar effaith Coronafeirws, mae tua hanner y boblogaeth wedi adolygu eu cronfa bensiwn yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae adolygiad blynyddol o’ch cynlluniau ymddeol yn arferiad gwych. Nid oes rhaid iddo gymryd yn hir ac os nad yw eich amgylchiadau wedi newid, efallai nad oes angen i chi newid unrhyw beth. Ond mae adolygu eich cynlluniau yn rheolaidd yn eich helpu i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn. Dylech hefyd sicrhau bod eich holl fanylion personol yn gyfredol.
Efallai y byddwch yn derbyn datganiad blynyddol gan ddarparwr eich pensiwn. Gall hwn fod yn fan cychwyn defnyddiol.
8. Mae’n anodd dod o hyd i wybodaeth ddiduedd am bensiynau
Mae HelpwrArian yn ffynhonnell o arweiniad ariannol arbenigol diduedd a gefnogir gan y llywodraeth. P’un a ydych angen help i gronni cynilion pensiwn neu eisiau gwybod mwy am opsiynau i gael mynediad at eich arian, gall HelpwrArian eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ewch i moneyhelper.org.uk/pensions neu ffoniwch 0800 011 3797 i siarad ag arbenigwr pensiynau annibynnol.
Camau syml nesaf
Ystyriwch beth rydych am barhau i’w wneud pan fyddwch wedi ymddeol
Defnyddiwch gyfrifiannell HelpwrArian i gyfrifo faint bydd angen arnoch wrth ymddeol a faint fyddwch chi’n mynd i’w gael
We’d like to use cookies to capture information about how you use the site, and how effective our advertising has been. We won’t set marketing or analytics cookies without your permission.
When you make a choice about cookies, we will store a small cookie to remember your choices. This means that if you return to the site, we’ll remember what you decided, and won’t ask you to choose again. This cookie doesn’t store any directly identifiable information about you.
You can change your decision about marketing or analytics cookies at any time, by making your selections in this screen. You can choose to accept or reject one or both types.
NOTE: These settings will only apply to the browser and device you are currently using.
Analytics
We’d like to set Google Analytics cookies to help us to improve our website by collecting and reporting information on how you use it. Find out more about how cookies are used on this site and why we want to use them.
We won’t set marketing cookies without your permission. You can change your preferences here.
Marketing
Marketing cookies are used to track visitors across websites. This helps us work out how successful our advertising is, so we can improve our ads and our website. Find out more about how cookies are used on this site and why we want to use them.
They may also be used by suppliers to display ads that are more relevant to you. You can find out more about how they use your data at Facebook, Twitter and Google.