
Cynllunio ar gyfer ymddeoliad
Camau syml i gynllunio ar gyfer yr ymddeoliad rydych chi eisiau
Mae pawb eisiau rhywbeth gwahanol o’u hymddeoliad. Beth bynnag y dymunwch o’ch un chi, mae angen cynllun arnoch ar gyfer sut i’w gael. Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth a phensiynau gweithle yn helpu i adeiladu sylfaen gadarn, ond mae mwy y gallwch ei wneud i baratoi ar gyfer bywyd yn nes ymlaen.
Does dim rhaid iddo fod yn gymhleth. Byddwn yn eich helpu i gymryd rhai camau syml tuag at gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad.